#

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Teitl y ddeiseb: Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint

Testun y ddeiseb:

"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod y cynlluniau arfaethedig o adeiladu Cylch Haearn y tu allan i Gastell y Fflint gan ein bod yn ymwybodol iawn o arwyddocâd hanesyddol Edward I a’i Gylch Haearn, a ddefnyddiwyd i ddarostwng a llethu ein pobl.

Rydym o’r farn bod hyn yn arbennig o amharchus i bobl Cymru a’n hynafiaid sydd wedi brwydro yn erbyn gorthrymder, darostyngiad ac anghyfiawnder am gannoedd o flynyddoedd.

Gofynnwn ichi ailfeddwl y penderfyniad i adeiladu’r heneb hon a defnyddio’r arian ar gyfer rhywbeth arall."

Cefndir

Ar 21 Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynlluniau ar gyfer prosiect £630,000 yng Nghastell y Fflint a'r blaendraeth, gan gynnwys gosod cerflun o'r enw y Cylch Haearn. Cafodd y dyluniad hwn ei ddewis gan banel o Lywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn dilyn cystadleuaeth am gynigion ar gyfer cysyniad celfyddydol i ddathlu Blwyddyn Chwedlau Llywodraeth Cymru.  

Byddai'r Cylch Haearn yn costio £395,000 a gallai fod hyd at 7 metr o uchder a 30 metr o led. Dywedodd y Llywodraeth Cymru y byddai'n cael ei gerfio gyda "geiriau a dywediadau priodol a fydd yn cael eu datblygu gan y gymuned leol". Byddai ymwelwyr yn gallu cerdded ar hyd y cerflun a mwynhau golygfeydd o'r castell ac ar draws yr aber.

Dywedodd George King Architects, a ddyluniodd y Cylch Haearn:

Mae'r cerflun yn symboleiddio coron rydlyd enfawr yn cynrychioli'r berthynas agos rhwng breniniaethau canoloesol Ewrop a'r cestyll a adeiladwyd ganddynt. Mae ffurf ansicr y cerflun, gyda'i hanner wedi'i gladdu o dan y ddaear, a'r hanner arall yn ymwthio i'r awyr, yn adlewyrchu natur ansefydlog y goron. Mae ei leoliad yng Nghastell y Fflint yn nodi'r fan enwog lle y trosglwyddwyd y goron o un llinach ganoloesol i un arall, fel y disgrifiodd Shakespeare yn Richard II. Castell y Fflint yw'r lleoliad yr ildiodd Richard II y goron i Harri IV, digwyddiad pwysig a ddylanwadodd ar hanes Prydain ac Ewrop.

Maent yn ymhelaethu

Mae'r Cylch Haearn wedi'i gynllunio'n ofalus i weithio ar sawl graddfa. O bell, mae ei ffurf drawiadol ac eiconig yn ymdebygu i arteffact hynafol enfawr sydd wedi golchi ar lan aber Afon Dyfrdwy. Mae ei faint a'i ffurf ddeinamig, wedi'u hategu gan oleuadau LED, yn golygu y daw'n adnabyddus iawn yn nhirlun yr ardal. Fodd bynnag, wrth i chi agosáu at y cerflun daw'n amlwg bod y darn yn fwy na cherflun. Mae tramwyfa wedi'i cherfio allan o'r cylch mawr, gan ganiatáu i ymwelwyr deithio ar hyd ei gylchedd. Mae'r llwybr graddol yn eich codi uwchben y ddaear, gan gynnig golygfeydd o'r aber a Chastell y Fflint. Wrth edrych yn fanylach, gallwch weld cerfiadau cywrain ar hyd ochrau'r dramwyfa. Mae un ochr cyfan i'r llwybr yn cynnwys dyfyniad eiconig o Richard II gan Shakespeare wrth i'r brenin ystyried ildio ei orsedd.

Ar yr ochr arall, mae'r llwybr yn troi'r cylch yn gwmpawd mawr, gydag enwau a chyfeiriad y cestyll eraill sy'n rhan o'r Cylch Haearn, a manylion am eu straeon a chwedlau eu hunain sy'n creu cysylltiad rhyngddynt a'r Fflint i annog ymwelwyr i ymweld â'r cestyll eraill yn y cylch.

 

Ymateb

Cafodd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru gryn dipyn o feirniadaeth (er enghraifft, yr erthyglhon ar wefan Nation.Cymru, a'r ddeiseb sydd ynghlwm). Roedd y feirniadaeth yn canolbwyntio ar y canfyddiad bod y Cylch Haearn arfaethedig yn dathlu'r 'Cylch Haearn' o gestyll yr adeiladodd Edward I fel rhan o'i ymgyrch filwrol yng Nghymru. Ar 26 Gorffennaf, dywedodd Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:

Rydym wedi gwrando ac yn cydnabod cryfder y teimladau ynghylch y gosodiad celf arfaethedig yng Nghastell y Fflint ac yn teimlo ei bod yn briodol inni gymryd saib ac adolygu'r cynlluniau ar gyfer y cerflun. Gan weithio'n agos gyda phartneriaid lleol, byddwn yn parhau i weithio ar gynigion ar gyfer datblygiadau yn y Fflint, gan gynnwys adolygu cyfleusterau newydd i ymwelwyr.

 

Ar 7 Medi, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru na fyddai’n bwrw ymlaen â cherflun y Cylch Haearn. Dywedodd Ken Skates AC:

Rydyn ni'n cydnabod bod y cynnig ar gyfer cerflun y Cylch Haearn wedi rhannu barn ac yn dilyn cyfarfodydd hynod adeiladol a chynhyrchiol â rhanddeiliaid lleol, rydym wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r dyluniad dan sylw. Byddwn yn defnyddio'r arian oedd wedi'i neilltuo ar gyfer y gwaith celf i gynnal yr uwchgynllun ehangach ar gyfer y blaendraeth, yn unol â barn pobl leol. Bydd hynny'n cynnwys buddsoddi cyfalaf mewn nifer o brosiectau yn yr ardal a chynnal nifer o ddigwyddiadau a gweithgareddau i gynyddu dealltwriaeth o hanes y Castell ac arwyddocâd y blaendraeth. Fel Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref y Fflint, rydym am roi blaenoriaeth uchel i ddatblygu'r uwchgynllun.”

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.   Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.